Gwneud cais am grant I Mewn I Waith

< Yn ôl

Gwneud cais am grant ar gyfer profiad gwaith gorffenedig ar gyfer unigolyn ar gwrs addysg bellach cymeradwy, a grant dilynol am dri mis o gyflogaeth uniongyrchol wedi'i chwblhau.

Ewch i dudalen grant i Mewn i Waith ar wefan CITB i weld pa gyrsiau sy'n gymwys ar gyfer y grant hwn ynghyd â rheolau eraill gan gynnwys pryd y dylech gyflwyno cais.

y ffurflen hon i wneud cais am brofiad gwaith wedi'i gwblhau a'r tri mis dilynol o gyflogaeth uniongyrchol wedi'i chwblhau.

Mae grant ar gyfer cyflogaeth uniongyrchol am dri mis ar gael dim ond pan fo’r unigolyn wedi cwblhau profiad gwaith yn falintolol, gyda’r un cyflogwr, tra ar gwrs addysg bellach cymeradwy.

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen:
  • Enw’r Prentis, dyddiad geni, rhif Yswiriant Gwladol, a dyddiadau profiad gwaith a/neu gyflogaeth
  • Tystiolaeth y gallwch ei lanlwytho gyda'ch cais i gefnogi'r profiad gwaith a/neu dri mis o gyflogaeth uniongyrchol.
    • Tystiolaeth o'r profiad gwaith fod gan y coleg neu ddarparwr y cwrs
    • Tystiolaeth o gyflogaeth uniongyrchol am dri mis fod ar ffurf cofnodion PAYE

Os mai e-bost yw eich tystiolaeth, sicrhewch eich bod yn cadw'r e-bost i'ch dyfais yn gyntaf fel y gallwch ei uwchlwytho yn erbyn y cais.

Os yw’r unigolyn yn cael ei gyflogi fel prentis, efallai y byddwch hefyd yn gallu gwneud cais am grant presenoldeb prentisiaeth. Rhaid i chi wneud cais am y grant hwn ar wahân.